Comisiwn
Rydym yn ymgymryd ag amrywiaeth o waith comisiwn, yn enwedig dodrefn. Oes gennych chi broblem storio? Gallwn ddod o hyd i ateb. Rydym wedi ymgymryd ag amrywiaeth o waith gan gynnwys uned i ddal sinc yn yr ystafell ymolchi, llecyn cadw esgidiau, silffoedd a bwrdd coffi. Byddwn yn gweithio gyda'ch problemau, syniadau, dewisiadau a chyllideb i greu eich darn perffaith a fydd wedi'i deilwra'n llwyr.
Ein heitem fwyaf poblogaidd yw'r lintel derw ... neu sillf ben tân! Mae'r rhain yn waith celf ac yn creu canolbwynt go iawn i'ch ystafell. Rydyn ni'n dod o hyd i'r derw yng Nghymru a dim ond yn defnyddio pren sydd â grawn a chymeriad da iddo ac yn cyflenwi'r cit gosod. Mae gennym hefyd Onnen a Ffawydd sy'n ddewisiadau rhagorol, ac ychydig yn rhatach na Derw. Mae yna amrywiaeth o orffeniadau ar gael gan gynnwys yr olew Danaidd mwyaf poblogaidd, cwyr naturiol neu baent emwlsiwn. Ni fydd unrhyw ddau yr un peth, hyd yn oed pan daw o'r un goeden. Cysylltwch â ni gyda'ch mesuriadau gofynnol (hyd, uchder a dyfnder) i dderbyn pris.
Rydym yn cynnig dosbarthiad lleol, hyd at 10 milltir o Benrhyndeudreth neu gallwch gasglu oddi wrthym ni o'r gweithdy ym Mryncir. Mae hefyd yn bosibl anfon gyda Parcelforce i unrhyw le yn y DU.